Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 14
Mehefin 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar gostau byw
(30 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwastadeddau Gwent / Ardaloedd sy’n Esiampl i Eraill o ran Adfer Natur
(30 munud)
5 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu Drafft ar HIV
(30 munud)
6 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Ddiogelwch Adeiladau - TYNNWYD YN ÔL
(0 munud)
7 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin
(30 munud)
8 Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
(5 munud)
NDM8022 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:
a) Adran 1;
b) Atodiad 1;
c) Adrannau 2 – 24;
d) Atodiad 2;
e) Adrannau 25 – 56;
f) Atodiad 3;
g) Adrannau 57 – 144;
h) Atodiad 4;
i) Adrannau 145 – 146;
j) Teitl Hir.
9 Dadl: Darlledu
(60 munud)
NDM8023 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu creu’r panel arbenigol a fydd yn ymchwilio i sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru.
2. Yn nodi bod y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn datgan eu bod yn gytûn y dylid datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i’r Senedd.
Cyd-gyflwynydd
Sian
Gwenllian (Arfon)
Cyflwynwyd y gwelliant canlynol:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 1.
10 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 15 Mehefin 2022